Geiriad y ddeiseb:
Galwn ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio
i’r problemau a nodwyd yn yr adroddiad diweddar am yr arolwg
o dai yn Aberystwyth yn 2012. Cododd yr adroddiad bryderon ynghylch
safon wael llety myfyrwyr a’r ffordd wael, sy’n cyfateb
i hynny, y caiff myfyrwyr eu trin yn y sector rhentu preifat. At
hynny, galwn ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn ac
agored ynghylch y mater angof hwn gyda’r cymunedau y mae hyn
yn effeithio arnynt, yn ogystal â sicrhau bod deddfwriaeth
tai bresennol a mesurau newydd gan yr awdurdodau perthnasol yn cael
eu dilyn yn gywir er mwyn cynorthwyo i godi safonau yn y sector
rhentu preifat.
Mae tai myfyrwyr wedi bod yn broblem gyson yn Aberystwyth ers
blynyddoedd. Cynhaliwyd arolwg ymysg myfyrwyr ynghylch eu profiadau
o ran tai ac mae manylion am y problemau maent yn eu hwynebu
wedi’u cynnwys mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr
2012.
Prif ddeisebydd: Aberystwyth Students Union
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 14 Mai 2013
Nifer y llofnodion : 188